Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 2
Chwefror 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(60 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19
(30 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Adolygiad Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
(30 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynnydd o ran Trethi Datganoledig
(30 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 6-8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
(30 munud)
6 Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
NDM7573 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg y unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
7 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020
NDM7572 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
8 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021
NDM7571 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
9 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021
(15 munud)
NDM7570 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ionawr 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
10 Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021
(15 munud)
NDM7574 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 25.15 yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021.
Gosodwyd y Gorchymyn Drafft (Saesneg yn unig) a'r Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Ymateb y Cwnsler Cyffredinol i adroddiad y Pwyllgor
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 11-12 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
(60 munud)
11 Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)
NDM7579 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.102:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws).
Gosodwyd Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 27 Ionawr 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Saesneg yn unig)
12 Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)
NDM7578 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
13 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 3 Chwefror 2021